Disgrifio Nodweddian Tirweddau Hanesyddol
Gwastadeddau Gwent


18 Rhymni


18 ardal gymeriad Rhymni: "tirwedd afreolaidd" gymhleth â phatrwm anheddu gwasgaredig. (Ffoto: GGAT Gwent Levels 050)

Cliciwch yma i gael map o'r ardal cymeriad hon

(Nôl i'r map)

 

Cefndir Hanesyddol

Mae'r dirwedd hon yn nodweddiadol o ardal a adferwyd bob yn dipyn yn ystod y cyfnod canoloesol, yn debyg i ardal 15 (Dwyrain Llansantffraid Gwynllwg).

Mae gan faenor Rhymni gryn nifer o ddogfennau canoloesol yn ymwneud ag amddiffynfeydd morol a rheoli'r system ddraenio. Bu melin ddwr ger aber Ffos Pill Melyn.

Gosodwyd y morglawdd yn Newton yn ôl yn niwedd yr unfed ganrif ar bymtheg a dyma un o'r ychydig ddigwyddiadau o'r fath sydd wedi'u cofnodi. Mae'r morglawdd a adeiladwyd (y rhoddwyd y gorau iddo erbyn hyn) yn bwysig iawn (ac mae'n Heneb Gofrestredig).

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Patrwm caeau afreolaidd o gaeau bach afreolaidd eu siâp (sy'n cadw llinellau hen gilfachau llanw), safle melin ddwr ganoloesol, ffyrdd troellog â gwastraff ymyl ffordd, aneddiadau gwasgaredig a phentrefan bach yn Newton, morglawdd

Mae'r dirwedd hon yn ymestyn dros dir uwch yr arfordir i'r de-orllewin o Wynllwg, hyd at ymyl y ffen ar dir is i'r gogledd o Ffos Pill-du. Lleolir ardaloedd 7 a 19 i'r de/dwyrain.

Nodweddir y dirwedd gan gaeau bach afreolaidd eu siâp, sy'n cynnwys llinellau dolennog hen gilfachau llanw; mae Pill Melyn yn nodweddiadol, ac fe'i defnyddid ar gyfer melin ddwr ganoloesol. Mae'r ffyrdd yn droellog a bu iddynt gryn dipyn o wastraff ymyl ffordd ar un adeg. Cynhwysai'r ardal aneddiadau gwasgaredig, phentrefan bach yn Newton.

Mae'r dirwedd hon yn nodweddiadol o ardal arfordirol y Gwastadeddau, ac mae'n cynnwys llawer o nodweddion tirwedd. Bu cryn dipyn o waith datblygu, ac mae llawer o'r ardaloedd sy'n dal i gael eu defnyddio at ddibenion amaethyddol wedi'u gwella gryn dipyn. Yn edrych dros yr ardal hefyd mae tai ar yr ucheldiroedd oddi amgylch.

Cliriwyd llawer o wrychoedd, er bod y lonydd yn debyg o fod yn llawn coed. Oherwydd natur agored y dirwedd hon mae'r datblygiadau diwydiannol i'r gogledd i'w gweld yn glir.

Fodd bynnag, mae'r ardaloedd hynny nas datblygwyd eto yn bwysig dros ben fel clustogfa, rhwng datblygiadau sy'n ymwthiol yn weledol i'r gogledd/gorllewin a'r tirweddau Rhufeinig sydd wedi'u cadw mewn cyflwr da i'r de/dwyrain.

Ffynonellau

Am wybodaeth bellach cysylltwch os gwlwch yn dda ag Ymddiriedolaeth Archeolegol Morgannwg-Gwent cyf. yn y cyfeiriad, neu ymwelwch â gwefannau Cyngor Cefn Gwlad: www.ccw.gov.uk neu Cadw: www.cadw.wales.gov.uk